The cart is empty

Struggle - Welsh

struggle
£ 9.99 each

"Stori allweddol, ar gyfer plentyndod canol a'r arddegau, am fyw gyda sioc drawmatig, wedi’i hysgrifennu gan Margot Sunderland a'i darlunio gan Nicky Armstrong


Mae bachgen yn profi digwyddiad trawmatig. Mae'n newid popeth. Nid yw'n gallu peidio â pharhau i deimlo'r boen. Mae eisiau i'w fywyd fod fel yr oedd o'r blaen. Mae'n penderfynu mai'r peth gorau i'w wneud yw dod o hyd i fyd heb bobl gan fod pobl yn ei frifo gymaint. Mae'n cofio cartref plant, sy'n adfail bellach, dros bont fach. Mae'n bwriadu mynd i fyw yno a chwalu'r bont, fel na all neb ei frifo mwyach. Ar ei ffordd, mae'n cyfarfod â milwr sy'n dweud wrtho mai'r unig ffordd i atal y boen yw siarad am yr hyn a ddigwyddodd, gyda rhywun y mae'n ymddiried ynddo. Gan anwybyddu'r cyngor hwn, mae'r bachgen yn parhau ar ei ffordd ac yn byw yn y lle heb bobl. Ond yn fuan caiff ei lethu gan unigrwydd ofnadwy. Daw’r milwr yn ôl, ac mae’r bachgen yn dweud hanes y digwyddiad trawmatig yn ei fywyd wrtho. Mae ei stori yn helpu plant eraill hefyd, gan ei fod yn siarad am wirioneddau poenus o hanesion eu bywydau nhw. Mae'n dychwelyd i fyd pobl, gan fyw bywyd lle nad yw ei orffennol yn ei boeni mwyach. Maint y llyfr: 16cm x 23cm"